|
NODAU AC AMCANION
Sicrhau fod pob disgybl yn ddwyieithog erbyn diwedd
ei yrfa yn yr ysgol a'i fod yn cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg
o fewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Cynnig cyfleoedd i'r plant ddysgu trwy brofiadau
uniongyrchol a pherthnasol o fewn awyrgylch hapus a chartrefol sy'n
hyrwyddo dysgu. Anelir at hyrwyddo dysgu pwrpasol sydd am ddatblygu
meddyliau bywiog ac ymchwilgar yn ein plant.
Canolbwyntio ar yr unigolyn a'i ddiddordebau gan
sicrhau fod y disgybl yn mwynhau ei addysg, yn cael ei symbylu,
yn ymchwilgar, yn ymdrechu i weithio'n annibynol, yn chwilfrydig
ac yn hunan ddisgybledig. Anogir y disgyblion i wneud y gorau o'u
doniau ac i ddatblygu fel unigolion meddylgar.
Ymestyn pob unigolyn, beth bynnag ei gefndir a'i
allu, hyd yr eithaf, trwy ddarparu tasgau gwahaniaethol a fydd yn
deillio o'r profiadau dysgu amrywiol. Anogir datblygiad y dychymyg
a phwerau rhesymu.
Paratoi pob disgybl i fod yn aelod cyfrifol o'r
gymdeithas drwy bwysleisio gwerthoedd megis onestrwydd, dyfalbarhad,
dangos parch a
goddefgarwch tuag at eraill, cwrteisi a'i bod yn awyddus i ymdrechu
a gwneud eu gorau glas bob amser.
Datblygu hunan-hyder ymhob disgybl ac agwedd bositif
tuag at waith. Mae gan bob unigolyn rywbeth pwysig i'w gynnig a'r
gallu i ragori o fewn rhyw faes. Rhoddir y cyfle iddynt gael mwynhad
a boddhad o wneud tasgau yn dda.
Sicrhau fod pob disgybl yn ymwybodol o'i ran bwysig
o fewn yr ysgol, y gymuned a'r amgylchfyd trwy gynnig profiadau
iddynt a fydd yn hyrwyddo hyn.
Creu cyswllt agos rhwng yr athrawon a'r rhieni
er mwyn atgyfnerthu dysgu'r plant.
Cynnig amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a fydd yn codi ymwybyddiaeth
y plant o'u iaith a'u diwylliant a'r byd o'u cwmpas gan ddatblygu
eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
back
|